
Golwg ar Gymru
By Dylan Iorwerth
Subjects: Wales, history, Wales, social conditions, Manners and customs, Welsh periodicals, Social life and customs, Journalism
Description: Hanes cyfoes Cymru trwy eiriau a lluniau gorau'r cylchgrawn Golwg dros y 25 mlynedd diwethaf. Fel yr unig gylchgrawn wythnosol Cymraeg, Golwg oedd y cyntaf i rannu rhai o straeon mwyaf yn hanes diweddar Cymru ac i gyfweld rhai o'r bobol amlycaf yn y newyddion. Mae Golwg yn dathlu pen blwydd yn 25 oed, ac i ddathlu, fe gyhoeddir cyfrol sy'n edrych yn ol ar y chwarter canrif ddiwethaf o hanes Cymru, a hynny trwy lygaid y cylchgrawn. Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg fydd yn dewis a dethol y casgliad o erthyglau a lluniau mwyaf eiconig. Trwy eiriau gwahanol newyddiadurwyr, fe fydd y gyfrol yn dangos y newidiadau, datblygiadau a thueddiadau a fu yng Nghymru yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf ym myd materion cyfoes, gwleidyddiaeth, y celfyddydau a chwaraeon. Fe fydd Dylan Iorwerth yn ysgrifennu cyflwyniad yn olrhain hanes difyr y cylchgrawn gan gynnwys yr uchafbwyntiau a r isafbwyntiau, o r cyfnod sefydlu i lansio Golwg360 ar y We. Fe fydd golygyddion Golwg yn cyflwyno cyfnodau eu golygyddiaeth nhw gyda chyfraniadau gan Dylan Iorwerth, Robin Gwyn, Huw Prys Jones, Karen Owen a Sian Sutton.
Comments
You must log in to leave comments.